Amdanom Ni

Un Llais Cymru yw’r prif gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu gwaith. Ffurfiwyd Un Llais Cymru ym mis Ebrill 2004 o'r ddau brif gorff blaenorol: NALC Cymru, a Chymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru. 

Cynhadledd 2012LLAIS Cenedlaethol - mae Llywodraeth Cymru a nifer o gyrff eraill yn cydnabod ac yn ymgynghori gydag Un Llais Cymru ar bolisi llywodraeth leol a pholisïau eraill sy’n berthnasol i gynghorau cymuned a thref. Rydym hefyd yn cynrychioli cynghorau cymuned a thref ar Gyngor Partneriaeth Cymru - llywodraeth leol.Rydym hefyd yn trefnu Cynhadledd Genedlaethol i'r sector yng Nghymru.

LLAIS Rhanbarthol – Mae Swyddogion Datblygu ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, a De Cymru’n sicrhau canfod anghenion lleol a gweithredu arnynt.

LLAIS Lleol – mae ein 16 o Bwyllgorau Ardal, a’r Pwyllgor Cynghorau Lleol Mwy yn cwrdd yn rheolaidd ac yn rhoi cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr lle caiff cynghorau rannu pryderon a phrofiadau, gyda siaradwyr gwadd perthnasol yn bresennol i godi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol ac i ateb cwestiynau.

Mae ein haelodau’n elwa o:

Cyngor cyfreithiol o safon uchel – yr amser targed am ymateb i ymholiadau syml yw 10 niwrnod. 

Cyngor ar wella darpariaeth gwasanaethau – gallwn roi cyngor ar atebolrwydd a rheolaeth, materion Adnoddau Dynol/ trefniadaeth, cynllunio, a Rheolau Sefydlog ynghyd â chyfarwyddyd ar gynyddu cyfranogiad y gymuned.

Hyfforddiant – mae rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant wedi cael ei datblygu i alluogi i gynghorau wella ansawdd ac effeithiolrwydd eu gwaith.

Materion Polisi – Mae Un Llais Cymru yn cadw cysylltiad agos gyda LlC ac eraill, ac yn gallu, felly, cynghori ar sbectrwm llawn materion polisi, boed wedi’u datganoli ai peidio.

Cylchlythyr a gwefan – erthyglau perthnasol, a gwybodaeth, ar faterion cyfredol sy’n effeithio ar gynghorau a gweithgareddau lleol ar draws Cymru.

Mae aelodaeth yn flynyddol, a seilir y tanysgrifiad ar faint y cyngor.

I ddysgu mwy am sut yr ydym yn gweithredu, gweler ein Datganiad Cenhadaeth ac Amcanion.