Ymgynghoriaeth
Mae Un Llais Cymru yn gallu cynnig nifer o wasanaethau ymgynghoriaeth gwahanol i aelod gynghorau a ddarperir gan bobl broffesiynol cymwysedig. Mae’r gwasanaethau ar gael trwy gyfrwng y Saesneg a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:
Adnoddau Dynol a Chyfraith Cyflogaeth
Ymgynghorydd: Paul Egan a Brian Kultschar
- Adolygu polisïau Adnoddau Dynol a chynllunio polisïau cyflogaeth pwrpasol i gynghorau
- Cyngor penodol a chefnogaeth ar bob mater Adnoddau Dynol, gan gynnwys materion disgyblaeth, achwyniadau, diswyddiadau ac absenoldeb salwch
- Gweithredu’n gynghorydd proffesiynol i Baneli Apeliadau cynghorau
- Darparu gwasanaeth ymchwilio allanol i achosion disgyblaeth difrifol
- Paratoi cytundebau setlo mewn achosion priodol
- Darparu gwasanaethau cyflafareddu i gynghorau sydd mewn gwrthdaro gyda gweithiwr
- Cymorth gyda dewis staff, gan gynnwys paratoi disgrifiadau swyddi, manylebau gweithwyr a pharatoi profion asesu
- Cymorth gyda pharatoi ar gyfer tribiwnlysoedd cyflogaeth
- Paratoi a chyflwyno cyrsiau hyfforddiant pwrpasol
Datblygu Datganiad ar Gynlluniau Lle a Lles
Ymgynghorydd: Chris Ashman MSC MIED
- Llunio proffiliau data lleol
- Ymarferion Ymgysylltu Cymunedol
- Paratoi Cynlluniau Lle yn cyflwyno safbwyntiau lleol ar ddatblygiadau arfaethedig ac anghenion economaidd, cymdeithasol a gwasanaethau amgylcheddol
- Ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau prif ffrwd
- Cael gafael ar gyllid i gyflawni gweithredoedd lleol
- Paratoi datganiadau Llesiant ac adroddiadau cynnydd blynyddol
Iechyd, Diogelwch a Lles
Ymgynghorydd – Jeff Berriman CMIOSH Cert. Ed. Dip. I.I.M. Dip. R.S.A
Adolygu’r seilwaith polisi presennol a chynllunio polisïau a gweithdrefnau pwrpasol
Cynnal asesiadau risg a darparu gweithdrefnau i gefnogi’r canfyddiadau
Pob agwedd o gyngor ar iechyd, diogelwch a lles
Darparu hyfforddiant pwrpasol Cwestiynau i’w gofyn fel cyngor
A oes gennych bolisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig?
A oes gennych asesiadau risg tân ysgrifenedig ar gyfer eich adeiladau?
A ydych yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diwygio Rheoliadau Tân?
A yw staff wedi cael eu hyfforddi ac yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau iechyd a diogelwch?
A ydych wedi cynnal asesiadau risg ar gyfer eich gweithgareddau?
Gall ein Hymgynghorydd gynorthwyo gyda’r holl faterion hyn a gall gynghori cynghorau ar eu holl gyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch.
Er mwyn cael mwy o fanylion, gan gynnwys costau, cysylltwch â Mr Paul Egan,
Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau.
Danfonwch e-bost pegan@onevoicewales.wales