Paul Egan
Paul Egan
Yn dilyn gyrfa llywodraeth leol lwyddiannus, cychwynnodd Paul yrfa gyda’r Gwasanaeth Prawf yn 1981 a gweithiodd mewn sawl rôl, gan gynnwys Prif Swyddog Cynorthwyol (Gwasanaethau Cymorth) a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Busnes. Yn ystod y cyfnod hyd at ei ymddeoliad cynnar ym mis Mawrth 2008, roedd yn Brif Swyddog Prawf Gweithredol ar gyfer Ardal Prawf De Cymru yn y flwyddyn yn diweddu ym mis Mawrth 2003. Yn ystod y cyfnod gweithredol hwn, gwasanaethodd Paul yn aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol a Fforwm Prif Swyddogion a Chadeiryddion Byrddau Cymru.
Mae Paul wedi graddio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, (enillodd Wobr y Coleg am y Myfyriwr Rhan Amser Gorau mewn Astudiaethau Busnes), mae’n aelod siartredig o’r Sefydliad Personél a Datblygu ac yn Gymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth; mae ganddo gymhwyster CiLCA ac mae’n Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Sector Cyhoeddus. Mae ganddo brofiad helaeth ar draws holl agweddau rheoli adnoddau dynol a chynllunio strategol a gafodd trwy fod yn aelod o Fwrdd Strategol Adnoddau Dynol Cenedlaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Grŵp Datblygu Busnes Cenedlaethol, gan wasanaethu’n Is-Gadeirydd Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder (Grŵp Rhanbarthol Cymru); a thrwy gymryd rhan mewn nifer o grwpiau cyfiawnder troseddol rhanbarthol a chenedlaethol gwahanol ym meysydd personél a hyfforddiant a datblygu. Yn ei flwyddyn olaf cyn ymddeol yn gynnar, chwaraeodd ran allweddol yn sicrhau bod Bwrdd Prawf De Cymru yn dod yn un o’r chwe Bwrdd Ymddiriedolaeth cyntaf yn Lloegr a Chymru.
Ers ymddeol yn gynnar, mae Paul wedi gweithio’n ymgynghorydd llawrydd ym maes Adnoddau Dynol, arweiniodd y gwasanaeth Adnoddau Dynol yng Ngrŵp Tai Seren; gweithiodd yn Glerc y Bwrdd Corfforaeth yng Ngholeg Glan Hafren; bu’n aelod o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru am 3.5 blynedd ac fe’i cyflogir ar hyn o bryd yn Ddirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau Un Llais Cymru.
Mae ei wybodaeth yn cynnwys pob agwedd o Adnoddau Dynol a chyfraith cyflogaeth; llywodraethiant corfforaethol; y defnydd o fodelau rhagoriaeth busnes; rheolaeth ariannol a chynllunio a rheolaeth sefydliadol. Bu’n weithgar ym maes gweinyddiaeth cynghorau lleol am flynyddoedd lawer a bu’n Glerc i Gyngor Cymuned Llandochau am dros 30 mlynedd, yn Ymddiriedolydd a Thrysorydd Canolfan Adferiad Alcohol Brynawel ac yn Gyfarwyddwr Accende Limited.