Pecyn Cymorth Asedau a Gwasanaethau
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth, cymorth ac adnoddau a luniwyd i'ch helpu wrth ymgymryd ag asedau a gwasanaethau cymunedol.
Yr hyn a olygwn wrth asedau a gwasanaethau cymunedol
Asedau a gwasanaethau cymunedol yw perchnogi neu reoli tir, adeilad neu wasanaethau megis adeiladau hanesyddol, llyfrgelloedd, meysydd chwaraeon, canolfannau hamdden a llawer mwy. Yn aml, mae’r cyfrifoldeb o ymgymryd ag asedau neu wasanaethau newydd yn codi wrth i awdurdod lleol eu trosglwyddo i ofal sefydliad cymunedol.
Y rheswm dros lunio'r pecyn cymorth
Mae ymchwil ddiweddar: “Rheoli a darparu gwasanaethau ac asedau mewn cynghorau cymuned a thref: Ymchwil gyda'r sector Ionawr 2018” yn tynnu sylw at gynnydd yn y gwasanaethau a ddarperir a'r asedau a reolir dros amser gan gynghorau cymuned a thref.
Un o awgrymiadau'r adroddiad yw: "O ran y canllawiau presennol ynghylch rheoli gwasanaethau ac asedau, dylid ystyried a oes modd eu gwella, cyfeirio atynt yn well neu eu teilwra’n well i ateb gofynion y sector."
Beth sydd yn y pecyn cymorth?
Bwriad y pecyn cymorth yw bod yn ganllaw cyfeirio defnyddiol i'ch helpu ym mhob cam o'r broses, o'r astudiaeth ddichonoldeb a’r cyfnod sefydlu i reoli a chynnal a chadw eich ased.
Mae canllawiau, rhestrau gwirio, templedi, astudiaethau achos yn ogystal â chyfeiriadau at opsiynau cyllido i gyd ar gael yma mewn un lle. Os oes gwybodaeth ar gael, gallwch ei hidlo yn ôl eich awdurdod lleol.
Mae'r wybodaeth a gesglir fel rhan o'r pecyn cymorth hwn yn dwyn ynghyd wybodaeth a gyhoeddwyd cyn hyn. Nid yw'r ffaith bod dolenni wedi'u cynnwys at ddogfennau a gyhoeddwyd yn golygu bod cynnwys y dogfennau hynny yn cael ei gymeradwyo. Nid yw'r pecyn cymorth hwn yn cynnig rhestr gynhwysfawr o'r wybodaeth sydd ar gael am reoli asedau a gwasanaethau yn y sector cynghorau cymuned yng Nghymru. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw beth arall y gellid ei roi ar y rhestr, rhowch wybod inni.