Astudiaethau Achos
Yn yr adran hon, mae amrywiaeth o astudiaethau achos a fydd yn eich helpu i ganfod rhagor o wybodaeth am y broses, y gwaith darparu a'r gwersi a ddysgwyd wrth ymgymryd ag ased neu wasanaeth cymunedol.
Parciau a Meysydd Chwarae, Cyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Tref Llanelli
Ym mis Tachwedd 2016, cysylltodd Cyngor Tref Llanelli â Chyngor Gwledig Llanelli ynghylch y posibilrwydd y gallai'r Cyngor Gwledig ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd ar ran y Cyngor Tref mewn perthynas â nifer o barciau a fyddai'n cael eu trosglwyddo o Gyngor Sir Caerfyrddin. Cytunodd y Cyngor Gwledig i helpu a dyma'r hanes.
Galeri, Caernarfon
Cafodd Canolfan Mentrau Creadigol Galeri, sef datblygiad theatr a gofod ar gyfer celf sy'n werth £7.5m, ei hagor yn swyddogol ym mis Ebrill 2005 a dyma brosiect mwyaf uchelgeisiol a mwyaf ei faint yr ymddiriedolaeth hyd yn hyn. Roedd agor y Galeri yn nodi datblygiad arwyddocaol i'r diwydiannau creadigol a chelfyddydol yn y Gogledd.
Pwll Nofio Aberteifi
Nid pwll nofio cyffredin yw'r pwll hwn. Dros y pedwar degawd diwethaf, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan bywyd cymunedol. Caiff y pwll ei redeg gan Ymddiriedolaeth Elusennol, a’i ddefnyddio gan ystod eang o breswylwyr lleol o bob oed ac o ardal ddaearyddol eang yn y Gorllewin.
Sefydliad Glynebwy
Sefydliad Glynebwy yw'r hynaf yng Nghymru. Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei adeiladu ym 1849. Roedd mewn perygl o gael ei golli oherwydd bod angen gwneud gwaith atgyweirio ac ailwampio helaeth. Yn 2007, cysylltodd ProMo Cymru â'r Cyngor i ymgymryd â'r dasg enfawr o achub ac adfer yr adeilad hanesyddol a'i ddychwelyd i fod yn ganolfan diwylliannol gynaliadwy ar gyfer gweithgareddau a dysgu cymunedol.
Y Fron
Yn 2014, yn dilyn cyfarfod a phleidlais yn y pentref, penderfynwyd y byddai Pwyllgor Canolfan y Fron yn bwrw ymlaen â'i Gynllun Cymunedol. Lluniwyd cynllun busnes i gadw adeilad ysgol fel Canolfan Gymunedol i'r pentref a'r cae chwaraeon at ddefnydd cymunedol. Teimlwyd bod angen ffordd o gynhyrchu incwm i gynyddu'r cronfeydd ariannol wrth gefn ar gyfer
gwariant cyfalaf ac fel rhwyd diogelwch.
Canolfan Forol Porthcawl
Mae Canolfan Forol Porthcawl yn hafan sy’n addas ar gyfer pob tywydd a thrwy gydol y flwyddyn i breswylwyr ac ymwelwyr gan ddod ag addysg, diwylliant, chwaraeon dŵr, busnes, cyflogaeth a manteision iechyd a llesiant i arfordir y De.
Tyfodd y syniad am atyniad addas drwy gydol y flwyddyn o'r angen i adeiladu cartref newydd i Gadetiaid Môr Porthcawl. Cafodd ei adeiladu ym 1946 ac mae’n dal yn gartref i'r Cadetiaid. Mae hefyd yn bencadlys ac yn ganolfan ragoriaeth i Ffederasiwn Syrffio Cymru.
Siop Griffiths
Yn 2011, sefydlodd y gymuned leol 'Dyffryn Nantlle 20:20', sef menter gymunedol i helpu i ddarparu gweithgareddau a hyfforddiant i bobl ifanc. Y bwriad oedd prynu ac adnewyddu Siop Griffiths, sef adeilad eiconig a hen siop nwyddau metel ym Mhenygroes a fu'n wag ers dros bum mlynedd.Yna, y cynllun fyddai adnewyddi'r adeilad i gynnwys caffi, siop, cyfleusterau gwely a brecwast a busnes gweithgareddau awyr agored. Byddai'r prosiect yn ymestyn prosiect gweithgareddau digidol a oedd ar waith yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd ac a oedd yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd am waith mawr eu hangen i bobl ifanc lleol.
Neuadd Bentref Gamblesby, Cumbria
Mae Neuadd Bentref Gamblesby yng Nghumbria yn enghraifft sy'n dangos sut y mae perchnogaeth gymunedol o adeilad lleol allweddol yn gallu cyfrannu'n sylweddol at adfywio morâl mewn cymdogaeth sy'n dirywio.
Prosiect Stryd Burton, Sheffield
Ym 1994, aeth pobl leol ati i droi hen ysgol Fictorianaidd yn adeiladau cymunedol lle byddent yn cynhyrchu incwm drwy rentu gwagle am brisiau fforddiadwy i grwpiau lleol. Bellach, mae'r ganolfan yn gartref i 100 o grwpiau ac mae dros 2,000 o bobl yn defnyddio'r ganolfan bob wythnos.
Heywood MAGIC, Rochdale
Yn 2002, aeth Pwyllgor Masnachwyr Marchnad Heywood yn Rochdale ati i gymryd yr awenau ar gyfer rheoli'r farchnad yr oedd y cyngor lleol yn bygwth ei gau. Fe wnaeth y pwyllgor ailsefydlu'r farchnad fel man llwyddiannus a llawn bwrlwm o weithgareddau cymunedol a hyfforddiant, ac erbyn hyn mae’r effaith gadarnhaol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau'r farchnad.
Aston-Mansfield, Newham
Mae perchnogaeth asedau wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad a thwf Aston-Mansfield i fod yn sefydliad angori cymunedol pwysig i bobl Dwyrain Llundain.