Brian Kultschar
Mae gan Brian radd mewn economeg, mae’n gymrawd y Sefydliad Personél a Datblygu Siartredig, mae ganddo ddiploma yn namcaniaeth ac arfer cynghori ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer cynghori a seicotherapi. Gweithiodd yn y swyddi canlynol yn ystod ei yrfa nodedig:-
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Rheolwr Adnoddau Dynol Interim Gwasanaethau a Busnes ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Rheolwr Adnoddau Dynol ar gyfer Grŵp MSS
Casglodd Brian gryn brofiad Adnoddau Dynol cyffredinol trwy gyflawni nifer o rolau gweithredol a strategol heriol yn y sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaethau. Gweithiodd hefyd ar aseiniadau hirdymor ac interim, ac mae’n ymfalchïo yn ei allu i ymgysylltu, addasu a chreu ôl troed parhaol ar y sefydliadau y gweithiodd iddynt. Gwnaeth hynny trwy ymgysylltu â phobl a mynd ati’n fwriadol i’w datblygu. Mae hefyd wedi rheoli llwythi gwaith cysylltiadau gweithwyr heriol. Mae’n berson ymarferol, masnachol, pragmatig â’i draed ar y ddaear ac mae’n gyfathrebwr rhagorol ac mae ganddo agwedd empathetig ac ymgynghorol at bobl a sefyllfaoedd.