Manteision Aelodaeth 

Ystyriwch y manteision sydd ar gael i aelodau -

Cyngor am ddim – darparu cyngor cyfreithiol a chyngor cyffredinol ar wella’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Mae llawer o Gynghorau wedi osgoi camgymeriadau costus oherwydd y cyngor a gawsant gennym. Man lleiaf, gall y cyngor a roddwn gynnig tawelwch meddwl i Gynghorau ac mae hefyd yn ‘yswiriant’ wrth gefn amhrisiadwy os yw pethau ar fin mynd ar chwâl.

Materion cyflogaeth – cymorth ac arweiniad ar nifer o faterion cyflogaeth.

Arweiniad ariannol – cymorth arbenigol ar holl faterion ariannol y cyngor.

Cyngor archwilio – cyngor cyffredinol ar faterion archwilio.

Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Cost Isel – yn cynnwys cyfraith cyflogaeth, Adnoddau Dynol, iechyd a diogelwch ac archwilio mewnol.

Cysylltiadau â Llywodraeth Cymru – mae Un Llais Cymru’n gweithio’n agos â Gweinidogion y Llywodraeth a swyddogion, sy’n golygu ein bod yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf sy’n effeithio cynghorau. Rydym yn gweithio hefyd gyda nifer o bartneriaid eraill i hyrwyddo buddiannau cynghorau.

Cyrsiau hyfforddiant a seminarau – fe’u darperir am brisiau gostyngol ac fe gynigir cynllun bwrsariaeth ar gyfer cynghorau llai. Mae’r modylau a gynigir yn cael eu diweddaru’n rheolaidd wrth inni ymateb i anghenion ein haelodau.

Bwletin – cyhoeddir e-fwletin misol chwarterol lliw llawn sy’n cael ei ddanfon at bob aelod gyngor, ac sy’n amlygu datblygiadau yn y sector ar lefel genedlaethol a lleol.

Cynhadledd Flynyddol – trefnir cynhadledd flynyddol ar gyfer ein haelodau sy’n rhoi cyfle iddynt glywed yn uniongyrchol am ddatblygu polisi ac agenda darparu gwasanaethau. Rydym hefyd yn trefnu Cynhadledd Flynyddol ar gyfer Cynghorau Mwy.

Arfer gorau – casglu a rhannu gwybodaeth ar arfer gorau ar gyfer cynghorau ar faterion o bob math. Mae llawer o hynny’n digwydd mewn Pwyllgorau Ardal ac yn y Pwyllgor Cynghorau Mwy.

Gwefan - yn cynnwys Llecyn Aelodau pwrpasol yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynghorau a chynghorwyr yng Nghymru.

Ymgynghoriadau Allanol – cyngor ac arweiniad ar ymgynghoriadau allanol, ac yn aml iawn fe gyflwynir barn ar ran ein haelodau ac ar ran ein sector

Rhannu gwybodaeth gyda chynghorau eraill – mae aelod gynghorau’n cael eu hannog i rannu gwybodaeth am eu newyddion a’u gweithgareddau trwy wefan Un Llais Cymru, Pwyllgorau a chylchlythyron – cyfle i gysylltu â’i gilydd yn uniongyrchol er mwyn dysgu o brofiad ei gilydd.

Cliciwch yma er mwyn lawrlwytho'r manteision yma.