Hafan >> Cyngor Partneriaeth Cymru
Cyngor Partneriaeth Cymru
Mae Un Llais Cymru yn cynrychioli cynghorau cymuned a thref ar Gyngor Partneriaeth Cymru. Y Cyngor Partneriaeth yw’r cyfrwng ffurfiol i awdurdodau lleol gysylltu â Llywodraeth Cymru ac ar gyfer meithrin cydweithio ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol ar y Cyngor Partneriaeth yn cwmpasu'r holl gynghorau a'r awdurdodau perthnasol. Caiff y cyrff canlynol eu cynrychioli:
- Cynghorau sir/cynghorau bwrdeistref sirol
- Cynghorau cymuned a thref
- Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau'r Heddlu
- Awdurdodau Tân ac Achub.
Mae'r Cyngor Partneriaeth yn cwrdd oddeutu 3 gwaith y flwyddyn.
Cynrychiolir Un Llais Cymru ar y Cyngor Partneriaeth gan y Cadeirydd neu Is-Gadeirydd. Fel ein cynrychiolydd meant yn gofalu fod buddiannau cynghorau cymuned a thref yn cael eu bwydo i drafodaethau ac yn cael eu hystyried wrth i Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ddatblygu a gweithredu polisïau.