Cynghorau Cymuned a Thref

Y mae 732 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru, a dyma’r haen llywodraeth sydd agosaf at y bobl. Mae Cyngor i'w gael ar 94% o ardal Cymru, ac mae gan 70% o'r boblogaeth gyngor cymuned ar gyfer eu hardal.

Mae’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn amrywio o aneddiadau bach gwledig i drefi mawr, ac mae eu cyllidebau'n amrywio yn yr un modd.  Fodd bynnag, yr hyn sydd yn gyffredin iddynt i gyd yw gwasanaethau eu cymunedau a gweithredu i wella ansawdd bywyd yn eu hardaloedd.  Cyflawnir hyn trwy weithredu ystod o hawliau a dyletswyddau statudol. Mae astudiaeth ymchwil annibynnol gan Brifysgol Aberystwyth wedi canfod 8 mantais allweddol cynghorau cymuned.

Mae cynghorau cymuned a thref yn atebol i’w hetholwyr lleol am ddarparu ystod eang o wasanaethau, ac am ddarparu a chynnal mwynderau lleol.

Cyfansoddir pob cyngor o aelodau etholedig, neu weithiau aelodau wedi’u cyfethol.

Yng Nghymru, mae oddeutu 8000 o gynghorwyr cymuned a thref, sy’n cynrychioli buddiannau’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu yn ei gyfanrwydd.  Cydnabyddir fod ganddynt swyddogaeth wrth roi llais i’r dinesydd wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cewch ddefnyddio hyn i ddod o hyd i’ch cyngor lleol, i gael gwybod sut i gysylltu â fe, a chael gwybodaeth am ei weithgareddau.  Y mae rhai ardaloedd yng Nghymru heb gyngor cymuned.  Os ydych yn byw mewn ardal o’r fath, gweler ein tudalen ar sut i sefydlu cyngor.

Hefyd, gweler ein gwybodaeth ar ddod yn gynghorydd.

Beth sy'n digwydd mewn cynghorau ar draws Cymru?

Beth am gael golwg isod i ganfod mwy am yr hyn sy'n mynd ymlaen mewn cynghorau yng Nghymru ar y funud?

 Abertawe a Gwyr