Manteision Cynghorau Cymuned a Thref
Daeth yr ymchwil annibynnol a wnaed yn 2003 gan Brifysgol Aberystwyth i’r casgliad fod “manteision cynghorau cymuned a thref yn fwy na’r costau cysylltiedig, a bod dadl gref dros sefydlu cynghorau cymuned ym mhob rhan o Gymru.” Amlygodd yr astudiaeth 8 mantais allweddol cynghorau cymuned.
- Ymatebolrwydd lleol: Ar gyfartaledd, y mae un cynghorydd cymuned neu dref ar gyfer pob 250 o drigolion yn y rhannau hynny o Gymru sydd â chynghorau ar y lefel leol, o gymharu ag un cynghorydd sir neu gynghorydd bwrdeistref sirol ar gyfer pob 2,320 o drigolion ar draws Cymru. Mae’r rhan fwyaf o aelodau cynghorau cymuned a thref yn byw yn y cymunedau maent yn ei gwasanaethu, ac mae llawer o gynghorau’n meithrin perthynas â’r trigolion lleol trwy arolygon, cylchlythyrau, a chyfarfodydd cyhoeddus. Felly, mae cynghorau cymuned a thref yn gallu fod yn fwy ymatebol nag awdurdodau ar lefelau uwch i anghenion a diddordebau’r gymuned, ac i’r amrywiaeth o ddiddordebau ac anghenion o fewn cymuned.
- Cynrychioli Buddiannau Lleol: Gall cynghorau cymuned a thref fod yn gyfrwng er mwyn cynrychioli buddiannau lleol i gyrff allanol. Tra bod yn rhaid i brif gynghorau gydbwyso’r anghenion a buddiannau cystadleuol y gwahanol gymunedau o fewn eu hardaloedd, mae gan gynghorau cymuned a thref gyfrifoldeb am gymuned unigol, ac nid oes cyfyngiadau arnynt wrth siarad dros fuddiannau eu cymunedau.
- Trefnu Gweithgarwch Cymunedol: Mae cynghorau cymuned a thref yn bodoli ar raddfa sy’n adlewyrchu patrymau rhyngweithriad cymdeithasol pobl, a’r ffordd y maent yn eu huniaethu eu hunain â lleoliad. Gallant felly weithredu i hwyluso gweithgarwch cymunedol, trefnu a noddi digwyddiadau cymunedol, a hyrwyddo ysbryd cymunedol a chynhwysedd. Mae gan gynghorau cymuned a thref swyddogaeth hanfodol wrth gefnogi clybiau a mudiadau lleol. Ar y cyd, maent yn rhoi dros £1 miliwn mewn grantiau i grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, elusennau a chyrff eraill y sector gwirfoddol bob blwyddyn – arian nad yw ar gael mewn cymunedau heb gyngor.
- Ychwanegolrwydd: Gall cynghorau cymuned a thref ychwanegu at y gwasanaethau ac amwynderau a weithredir gan y cynghorau sirol a chynghorau bwrdeistref sirol. Mae ganddynt yr hyblygrwydd i wella darpariaeth gwasanaethau yn y gymuned, neu i ddarparu gwasanaethau neu amwynderau ychwanegol, neu hyd yn oed pethau syml megis arddangosfeydd blodeuol all fod y tu hwnt i flaenoriaethau ariannol prif gynghorau.
- Atebolrwydd: Daw awdurdod cynghorau cymuned a thref o’r ffaith eu bod wedi’u hethol. Yn wahanol i swyddogion cymdeithasau cymunedol anstatudol, mae cynghorwyr cymuned a thref yn atebol i’r etholwyr lleol, a gellir eu disodli adeg etholiad. Ymhellach, maent yn atebol i’r gymuned oll, nid i aelodaeth daledig, ac felly mae ganddynt gymhelliad i ymwneud ag, ac i gynrychioli, pob sector y gymuned, nid dim ond y rhai sydd â thuedd i ymuno â chymdeithasau lleol.
- Sefydlogrwydd a Dilyniant: Mae cyfansoddiad statudol cynghorau cymuned a thref yn golygu fod cryn dipyn o sicrwydd i’w bodolaeth. Yn wahanol i gymdeithasau cymunedol anstatudol, nid ydynt yn dibynnu ar recriwtio aelodau neu sicrhau cysondeb ariannu o gyrff sy’n rhoi grantiau. Golyga hyn y gall cynghorau cymuned a thref gynllunio ar sail mwy tymor hir, a bod ganddynt fwy o allu i ymwneud â phrosiectau ar raddfa fwy.
- Hawliau Trethu: Mae’r gallu sydd gan gynghorau cymuned a thref i godi archebiant ar y dreth gyngor yn un o’r pwerau mwyaf sylweddol sydd ganddynt. Er y gall fod cyfyngiadau arnynt wrth godi arian mewn cyd-destunau eraill, mae’r gallu i godi archebiant yn sicrhau incwm gweddol gyson (sydd eto yn cefnogi cynllunio tymor hir), ac mae’n fodd codi arian o’r gymuned i’w hail-fuddsoddi yn y gymuned er lles y gymuned.
- Hyrwyddo Gwasanaeth Cyhoeddus: Mae gwneud cyfraniad trwy fod yn gynghorydd cymuned neu dref yn golygu fod unigolyn yn cyfranogi’n fwy sylweddol i wasanaethau’r cyhoedd na chyfranogi mewn cymdeithas gymunedol anstatudol. Gall cynghorau cymuned a thref fod yn ‘faes hyfforddi’ ar gyfer unigolion a all wedyn fynd ymlaen i wasanaethu fel cynghorwyr sir neu gynghorwyr bwrdeistref sirol, neu i sefyll am swydd etholedig ar lefel uwch.