Sefydlu cyngor

Mae gan y dudalen hon wybodaeth ar sut i sefydlu cyngor ar gyfer eich ardal.

Does dim amheuaeth y gall cyngor cymuned neu dref wneud gwahaniaeth sylweddol i’r ardal a wasanaethir ganddo. Os nad oes cyngor cymuned neu dref yn gwasanaethu’ch ardal ar hyn o bryd, nid yw’n anodd sefydlu cyngor. Daeth yr ymchwil annibynnol a wnaed yn 2003 gan Brifysgol Aberystwyth i’r casgliad fod “manteision cynghorau cymuned a thref yn fwy na’r costau cysylltiedig, a bod dadl gref dros sefydlu cynghorau cymuned ym mhob rhan o Gymru.” Amlygodd yr astudiaeth 8 mantais allweddol cynghorau cymuned.

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cynnwys darpariaeth yn caniatáu i gymuned gyflwyno cais i'r prif gyngor perthnasol (cyngor sir, neu gyngor bwrdeistref sirol) am sefydlu cyngor cymuned, os:

  • bydd cyfarfod cymunedol, a fynychwyd gan o leiaf 30% o’r etholwyr, neu, os bydd y nifer hwnnw yn uwch na 300, gan o leiaf 300 o’r etholwyr, wedi penderfynu cynnal refferendwm o holl etholwyr llywodraeth leol y gymuned, ac 
  • mae’r cynnig i sefydlu cyngor wedi derbyn cefnogaeth mwyafrif y rhai a bleidleisiodd yn y refferendwm.

O ganlyniad, mae’n bwysig eich bod yn dod o hyd i leoliad addas ar gyfer y cyfarfod cymunedol, a sicrhau cyhoeddusrwydd da iddo. Mae hefyd yn syniad da i geisio cefnogaeth prif gyngor yr ardal.

Bydd raid i chi hefyd ystyried pa ardal leol yr ydych am i'r cyngor newydd ei gwasanaethu. Mae pob rhan o Gymru’n dod o fewn ffiniau cymuned, a yw’r gymuned yn cael ei gwasanaethu gan gyngor ai peidio, felly'r man cychwyn yw'r ffiniau cymunedol ar gyfer eich ardal. Weithiau, bydd yn synhwyrol i gyngor newydd fod yn gyfrifol am fwy nag un gymuned (cyhyd â nad oes cyngor yn gwasanaethu un ohonynt yn barod).

Mae Un Llais Cymru'n awyddus i gefnogi sefydlu cynghorau cymuned newydd. Cysylltwch â ni os ydych am gael mwy o wybodaeth am sefydlu cyngor ar gyfer eich ardal.