Cyfleoedd Nawdd

Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyflenwyr farchnata eu cynhyrchion a gwasanaethau i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Gellir gwneud hyn trwy brynu gwe ofod yn ein Cyfeiriadur Cyflenwyr, trwy archebu gofod arddangos yn ein cynadleddau a digwyddiadau yn ogystal ag mewn Pwyllgorau Ardal a gynhelir ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle delfrydol i farchnata eich mudiad i’n haelod gynghorau, cyfanswm o fwy na 570 yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mae croeso ichi gysylltu â’n Prif Swyddfa fel a ganlyn:

Rydym yn cynnig prisiau rhesymol am y gwasanaethau hyn - cliciwch yma am fanylion.

E-bost : gweinydd@unllaiscymru.org.uk

Ffôn : 01269 595400

Ffacs : 01269 598510