Hyfforddiant i Glercod
ILCA - Y Wybodaeth Hanfodol
Beth yw ILCA?
Bydd yr arf cynefino sector benodol lefel 2 hawdd i’w ddefnyddio hwn yn cefnogi pob clerc a swyddog cyngor newydd yn eu rolau yn ystod eu hychydig fisoedd cyntaf yn eu swydd, yn ogystal â’r sawl sy’n gobeithio mynd ymlaen i gwblhau eu cymhwyster lefel 3 CiLCA. Nod y cwrs yw cynnig cyflwyniad i waith cyngor lleol, y clerc a’i gynghorwyr
Cysylltwch a'r SLCC ar gyfer fwy o gwybodaeth 01823 253646 neu ilca@slcc.co.uk
CiLCA: Cyflwyniad i Cynghorwyr a Swyddogion Cynghorau Mae CiLCA yn gymhwyster sylfaen ar gyfer swyddogion cynghorau lleol a phobl eraill sy’n gweithio gyda chynghorau lleol. Mae’n Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol a ddyfernir ar Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF) ac mae werth 20 credyd. Mae’r cymhwyster yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan y Bwrdd Gwella a Datblygu (IDB) sy’n gweithio ar ran cynghorau lleol yn Lloegr a’r Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Hyfforddiant (NTAG) sy’n cynrychioli cynghorau lleol yng Nghymru. Yn y cyswllt hwn, ystyr cynghorau lleol yw cynghorau plwyf, tref, cymuned a chymdogaeth. Gweinyddir CiLCA gan y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC).